Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (166) |
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 10 a 12 eu grwpio.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gofynnwyd y ddau gwestiwn.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5370 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi ei bod yn adeg o newid o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio systemau.
2. Yn cydnabod:
a) y potensial i gydgynhyrchu wella cyflenwad gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol.
b) ymrwymiad presennol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan asedau sy'n eiddo cyhoeddus y potensial i aros mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru.
3. Yn gresynu:
a) nad oes digon yn cael ei wneud i sicrhau bod cymunedau'n ymwybodol o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol neu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.
b) bod Cymru yn methu â rhannu llwyddiant yr Agenda Anghenion Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) hyrwyddo cydgynhyrchu fel ffordd hyfyw o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.
b) archwilio dichonoldeb mabwysiadu agweddau pellach ar y Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.
b) datblygu polisi asedau cymunedol cynhwysfawr sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4b) a rhoi yn ei le:
sicrhau bod yr agendâu lleoliaeth a throsglwyddo asedau cymunedol yn ddiamau yn grymuso cymunedau ac nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ffordd o breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5371 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn mynegi pryder ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Llwynhelyg.
2. Yn nodi'r effaith y byddai absenoldeb gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ei chael ar wasanaethau craidd eraill yn yr ysbyty, megis gofal pediatrig a gofal brys.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cymryd camau gweithredu brys i sicrhau dyfodol gwasanaethau craidd yn Llwynhelyg; a
(b) sicrhau bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer cyfeiriad strategol y gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg mewn modd effeithiol a diamwys.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
6 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5372 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi na fydd perfformiad Cymru yn erbyn PISA a mesuriadau perfformiad addysgol cenedlaethol a rhyngwladol eraill yn gwella digon i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru oni bai bod cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion o gefndir difreintiedig yn gwella'n sylweddol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhaglen hyfforddi gynhwysfawr i athrawon, penaethiaid a staff cymorth newydd a phresennol ar ymyriad cynnar i wella llythrennedd, rhifedd, presenoldeb ac ymddygiad er mwyn codi cyfraddau cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig.
3. Yn croesawu cytundeb cyllideb Plaid Cymru gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru i fwy na dyblu'r cyllid a roddir fesul plentyn drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cryfhau'r canllawiau ar y defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon i godi cyrhaeddiad disgyblion difreintiedig yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio; a
b) cryfhau'r broses o fonitro’r defnydd o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
18 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.44
7 Dadl Fer
Ni chyflwynwyd testun.
8 Dadl fer - aildrefnwyd o 25 Medi
Dechreuodd yr eitem am 17.54
NDM5305 Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision Canmlwyddiant Dylan Thomas i Gymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18:17
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2013